Noam Chomsky

Athronydd ac ieithydd Americanaidd yw Avram Noam Chomsky (ganwyd 7 Rhagfyr 1928 yn Philadelphia, UDA). Roedd ei dad, William Chomsky, yn ysgolhaig Hebraeg. Treuliodd Noam gyfnod mewn cibwts. Bu farw ei wraig Carol yn 2008 yn dilyn 60 mlynedd o fywyd priodasol.

Athro Emeritws Ieithyddiaeth MIT ydyw. Cydnabyddir iddo greu damcaniaeth gramadeg cynhyrchiol, un o uchafbwyntiau ieithyddiaeth haniaethol yn yr 20g. Yn ogystal, mae ei waith wedi cael dylanwad ar seicoleg, ac ar athroniaeth iaith ac athroniaeth meddwl.

Gan gychwyn gyda'i wrthwynebiad i Ryfel Fiet Nam yn y 1960au, fe ddaeth i'r amlwg yn y cyfryngau am ei ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n ddeallusyn allweddol i'r asgell chwith yng ngwleidyddiaeth Unol Daleithiau America. Mae'n feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau. Disgrifia'i hun yn sosialydd rhyddewyllysiol ac yn gydymdeimlwr ag anarcho-syndicaliaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 12 canlyniadau o 12 ar gyfer chwilio 'Chomsky, Noam', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12