Dashiell Hammett
Llenor o'r Unol Daleithiau yn yr iaith Saesneg oedd Dashiell Hammett (27 Mai 1894 – 10 Ionawr 1961) a arloesodd ffuglen drosedd ''hardboiled''.Ganed ef yn St. Mary's County yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America. Gadwodd yr ysgol yn 13 oed a gweithiodd mewn sawl swydd cyn ymuno ag asiantaeth dditectif Pinkerton am wyth mlynedd. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a dioddefai'r ffliw Sbaenaidd a thwbercwlosis wedi diwedd y rhyfel.
Wedi i'w iechyd wella, dechreuodd Hammett ysgrifennu ffuglen dditectif ar sail ei brofiadau gyda'r Pinkertons. Ymddangosodd ei straeon a nofeligau cynnar mewn cylchgronau pwlp, yn bennaf ''Black Mask'', ac ym 1929 cyhoeddodd ei ddwy nofel gyntaf, ''Red Harvest'' a ''The Dain Curse''. Adroddir y nifer fwyaf o'i weithiau yn y cyfnod o 1923 i 1930 gan "The Continental Op", ymchwilydd preifat yn San Francisco. Ei gampwaith ydy'r nofel ddirgelwch ''The Maltese Falcon'' (1930), a gyflwynodd y ditectif Sam Spade. Ei ddwy nofel olaf oedd ''The Glass Key'' (1931) a ''The Thin Man'' (1934).
Wedi 1934, treuliodd Hammett ei amser yn ymwneud â gwleidyddiaeth yr adain chwith ac yn ymgyrchu dros ryddid sifil. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1937. Ymunodd â'r fyddin unwaith eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gwasanaethodd yn Ynysoedd yr Alewt. Un o brif aelodau'r Civil Rights Congress, ydoedd ac aeth i'r carchar am chwe mis ym 1951 am iddo beidio â datgelu enwau'r rhai a gyfrannodd yn ariannol i'r sefydliad hwnnw. Bu farw Dashiell Hammett yn Ninas Efrog Newydd yn 66 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11gan Hammett, Dashiell, Αποστολίδης, Ανδρέας, translator, Πετσόπουλος, Σταύρος, editor
Cyhoeddwyd 1986