Joseph Smith

Sefydlydd Mudiad Saint y Dyddiau Diwethaf oedd Joseph Smith, Jr. (23 Rhagfyr 180527 Mehefin 1844), a elwir hefyd yn Formoniaeth. Roedd yn ffigwr crefyddol a gwleidyddol o bwys yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1830au a'r 1840au. Ym 1827, dechreuodd Smith gasglu dilynwyr crefyddol wedi iddo ddweud fod angel wedi dangos set o blatiau aur iddo yn disgrifio hanes Iesu i bobloedd brodorol yr Amerig. Ym 1830, cyhoeddodd Smith ''Llyfr Mormon'', sef yr hyn a honai ei fod yn gyfieithiad o'r platiau hynny, a'r un flwyddyn sefydlwyd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.

Bu Smith yn byw yn Kirkland, Ohio, trwy ran helaeth y 1830au, a dyma lle arhosodd pencadlys yr eglwys hyd iddo gael ei ysgogi gan gost adeiladu teml fawr, methiant arianol, a gwrthdaro gyda aelodau oedd wedi eu di-affeithio i gasglu anheddiad Saint y Dyddiau Diwethaf ym Missouri. Yno, dwysáodd y tensiwn rhwng y Mormoniaid ac eraill gan arwain at Ryfel Mormon 1838. Wedi hyn, symudodd Smith a'i ddilynwyr i Nauvoo, Illinois, lle dechreuont adeiladu ail deml gyda chymorth bobl o Ewrop oedd newydd gael eu trosi i'r grefydd. Wedi iddo gael ei gyhuddo o ymarfer amlwreicaeth, ac o geisio creu theocrataeth, annogodd Smith ataliad papur newydd a oedd wedi cyhoeddi'r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan arwain at ei lofruddiaeth gan dorf o rhai nad oedd yn Formoniaid.

Mae dilynwyr Smith yn ystyried ei fod yn broffwyd, ac wedi canoneiddio rhai o'i ddatguddiadau fel ysgrifau sanctaidd cyfwerth â'r Beibl. Mae ei gymun yn cynnwys sawl enwad crefyddol; y mwyaf o'r rheiny yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, sydd â miliynau o ymlynwyr. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Smith, Joseph', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2