Anne Enright

| dateformat = dmy}}

Mae Anne Teresa Enright FRSL (ganwyd 11 Hydref 1962) yn awdur Gwyddelig. Cyhoeddodd nifer o nofelau, straeon byrion, traethodau, ac un llyfr ffeithiol. Mae'n gymrawd 'Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth'. Enillodd ei nofel ''The Gathering'' wobr Man Booker, 2007. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig 1991, Gwobr Encore 2001 a Nofel y Flwyddyn 2008 yn Iwerddon.

Fe'i ganed yn Nulyn ar 11 Hydref 1962. Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif pan roddodd ei theulu deipiadur trydan iddi ar gyfer ei phen-blwydd yn 21 oed. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg y Drindod, Dulyn a Phrifysgol Dwyrain Anglia.

Bu'n gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr teledu i RTÉ yn Nulyn am chwe blynedd a chynhyrchodd y rhaglen Nighthawks am bedair blynedd. Yna gweithiodd ar raglenni plant am ddwy flynedd ac ysgrifennodd ar benwythnosau. Dechreuodd Enright ysgrifennu'n llawn amser yn 1993. Cychwynodd ei gyrfa llawn amser fel awdur pan adawodd byd y teledu oherwydd iddi dorri lawr. Mae Enright yn byw yn Bray, Swydd Wicklow gyda'i phriod Martin Murphy, sy'n gyfarwyddwr Theatr y Pafiliwn yn Dún Laoghaire. Mae ganddynt ddau o blant, mab a merch. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Enright, Anne', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Enright, Anne
    Cyhoeddwyd 2005
  2. 2